Mae rebeliaid sydd wedi bod yn cwffio yn rhyfel cartre’ Syria wedi croesi’r ffin i Libanus ac ymosod ar dre’ yno.
Mae aelodau o wasanaethau diogelwch Libanus wedi’u lladd.
Mae’r rebeliaid, sy’n cynnwys ymladdwyr o dramor, wedi bod yn gorchymyn i gyfnewid milwyr a phlismyn y maen nhw wedi’u dal yn Arsal, am rai o’r dynion perycla’ sydd dan glo yn Libanus.
Fe fu’r gwyr arfog, yn gwisgo masgiau, yn crwydro strydoedd Arsal yn Libanus, tra bod hofrenyddion y wlad yn hedfan uwchben. Mae Arsal rhyw 55 milltir o’r brifddinas, Beirut.