Benjamin Netanyahu - beio Hamas
Parhau y mae’r dadlau tros dorri’r cadoediad yn Gaza gyda’r naill ochr a’r llall yn beio’i gilydd.
Erbyn hyn mae mudiad milwrol Hamas yn dweud nad oedden nhw wedi cipio milwr o Israel ond yn hytrach ei fod wedi ei ladd gyda Phalestiniaid yn ystod ymosodiad gan yr Israeliaid eu hunain.
Ond, yn ôl Prif Weinidog Israel, Benjamim Netanyahu, Hamas oedd yn gyfrifol am dorri’r cadoediad trwy ymosod ar filwyr Israelaidd.
Fe arweiniodd y gwrthdaro – a’r honiad fod milwr o’r enw Hadar Goldin wedi ei gipio gan y Palestiniaid – at ddiwrnod arall o ladd yn y rhanbarth a oedd i fod mewn cyfnod o dridiau o gadoediad.
Erbyn hyn, mae mwy na 1,600 o Balestiniaid wedi eu lladd mewn pythefnos o ymladd, y rhan fwya’n bobol gyffredin. Mae’r Israeliaid wedi colli 63 milwr a 3 pherson cyffredin.
Defnyddio arfau Prydeinig?
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Prydain yn dod dan bwysau oherwydd honiadau fod arfau Prydeinig yn cael eu defnyddio gan Israel yn Gaza.
Yn ôl papur yr Independent, mae 130 o gwmnïau Prydeinig wedi cael trwyddedau i werthu gwerth £42 miliwn o arfau a cherbydau arfog i Israel ers 2010.
Ym mhapur y Guardian wedyn, mae Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg, wedi galw ar Israel i roi’r gorau i’w gweithredu milwrol a thrafod gyda Hamas.