Mae asgell filitaraidd y mudiad Hamas wedi gwrthod ensyniadau fod milwr o Israel wedi cael ei ddal gan ymladdwyr yn Gaza.
Mewn datganiad, mae’n dweud “nad yw’n ymwybodol ar hyn o bryd am filwr sydd ar goll, nid yw’n gwybod lle mae o, nac am amgylchiadau ei ddiflaniad”.
Mae yna awgrymiadau fod y milwr wedi cael ei ladd mewn brwydr rhwng ymladdwyr Hamas tuag awr cyn i’r cadoediad rhyngwladol ddechrau’n swyddogol.
Yn ôl Hamas, mae wedi colli cysylltiad gydag ymladdwyr, ac mae’n “credu fod pob aelod o’r grwp dan sylw wedi marw mewn ymosodiad gan Israel”.