Fe fydd Amgueddfa Big Pit yn lansio rhifyn diweddaraf ei chylchgrawn hanes, sydd yn nodi pwysigrwydd y diwydiant glo i’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar faes yr Eisteddfod eleni.

Bydd rhifyn diweddaraf GLO, sef Dai a Tomi – Glowyr ar Faes y Gad 1914-18, yn cael ei lansio ddydd Llun 4 Awst, 3pm-4pm, ar stondin Amgueddfa Cymru ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Mae’r rhifyn yn adrodd hanes rhai o’r glowyr o Gymru fu’n brwydro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â straeon Cymry a drodd yn ‘dwnelwyr’ yn ystod y rhyfel.

I raddau helaeth mae hanes y rhan honno o’r rhyfel yn angof, yn ôl Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, er y rôl allweddol a chwaraeodd y Cymry yn yr ymdrech.

Ers 2005 mae Big Pit wedi bod yn casglu a chyhoeddi straeon amrywiol am bobl yn y diwydiant glo ar hyd a lled Cymru ar gyfer y cylchgrawn.

Bydd John Griffiths AC, Gweinidog dros Adnoddau Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon yn un o’r rhai fydd yn bresennol.

“Mae’n bleser gen i lansio’r rhifyn hwn o GLO fel rhan o raglen Amgueddfa Cymru i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai John Griffiths.

“Roedd glo’n rhan ganolog o’r rhyfel, nid yn unig wrth gadw pobl yn gynnes ond hefyd wrth yrru diwydiant, y rheilffyrdd a llongau.

“Ni ddylid fyth anghofio aberth y bobl a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel drwy ddod â’r glo i’r wyneb”.

Mae modd lawrlwytho rhifynnau blaenorol GLO o wefan www.amgueddfacymru.ac.uk/rhagor/glo.