Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud y byddan nhw’n parhau gyda chynlluniau i adeiladu ysgol newydd yn Rhuthun, tra maen nhw’n aros am benderfyniad Llywodraeth Cymru os ddylai ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd gael ei chau ai peidio.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf bydd 26 o ddisgyblion llawn amser yn Ysgol Llanbedr DC, gan olygu 51.8% o leoedd gwag.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo cynlluniau dadleuol i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 31 Awst gyda’r bwriad o ddefnyddio’r arian i adeiladu ysgol newydd yn Rhuthun.
Cafodd y penderfyniad hwnnw ei gyfeirio at Lywodraeth Cymru gan Esgobaeth Llanelwy.
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, eisoes wedi dweud na fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar ddyfodol yr ysgol tan yr hydref, sy’n golygu bydd yr ysgol yn aros ar agor tan fis Rhagfyr o leiaf.
Ond meddai’r cyngor mewn datganiad wrth golwg360 y bydd y “penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn parhau, bydd y penderfyniad terfynol ar y dyfodol yn cael ei wneud gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn yr Hydref”.
Dywedodd y cyngor bod angen “sicrhau ei bod yn defnyddio ei adnoddau yn effeithiol i greu system addysg gynaliadwy ar gyfer y dyfodol”.
Lleoedd gwag
Yn ôl y datganiad nid oedd y penderfyniad i gau’r ysgol wedi cael ei arwain gan yr angen i ddenu cyllid yn unig, ond bod ffactorau eraill wedi cael eu hystyried gan gynnwys lleoedd gwag.
Yn ôl y cyngor, mae gan ardal Rhuthun yn gyffredinol un o’r niferoedd uchaf o leoedd gwag mewn ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych.
Yng nghyfrifiad disgyblion mwyaf diweddar, roedd 290 o leoedd i ddisgyblion dros ben, sy’n cyfateb i 24.2% o’r capasiti cyffredinol.
Roedd dros hanner y rhain yn lleoedd dros ben o fewn y sector cyfrwng Saesneg.
Ychwanegodd y cyngor fod gan Ysgol Llanbedr DC le i 54 o ddisgyblion llawn amser ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd roedd gan yr ysgol 20 o ddisgyblion ar y gofrestr sy’n golygu bod 62.9% o leoedd gwag.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf bydd 26 o ddisgyblion llawn amser fydd yn golygu 51.8% o leoedd gwag.
Ychwanegodd y cyngor bod ariannu disgyblion Ysgol Llanbedr DC hefyd yn un o’r uchaf yn y sir sef £8,498 y disgybl. Cyfartaledd Sir Ddinbych ydy £3,951.
Buddsoddi
Gobaith y cyngor yw y bydd y ffactorau hyn, gyda’i gilydd, yn golygu na fydd gan Huw Lewis unrhyw ddewis ond cau Ysgol Llanbedr DC.
Meddai’r cyngor: “Mae Sir Ddinbych wedi ail-fuddsoddi arbedion cyfalaf a refeniw o gau ysgolion i mewn i adeiladau ysgolion newydd a gwaith adnewyddu a bydd yn parhau i wneud hyn os fydd y Gweinidog yn penderfynu cau Ysgol Llanbedr.”
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am addysg, yr wythnos hon hefyd, bod angen buddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau newydd yn ardal Rhuthun i fynd i’r afael â materion fel darparu ystafelloedd dosbarth symudol.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru – rhaglen sydd a’r nod o greu cenhedlaeth o ysgolion sy’n darparu addysg mewn amgylchfyd addas i’r 21ain Ganrif.
Mae cyllido prosiectau’r rhaglen yn gofyn am gyfuniad o grantiau gan Lywodraeth Cymru a buddsoddiad gan awdurdodau lleol .
Fodd bynnag, meddai’r cyngor, mae’r grantiau asydd ar gael yn dod ar yr amod fod “Sir Ddinbych yn gallu dangos bod materion penodol wedi cael sylw, megis lleoedd dros ben a defnydd mwy effeithlon o adnoddau addysgol.”