Mr Phormula ar y deciau
Glywsoch chi’r un yna am y digrifwr, y bîtbocsiwr a’r bardd yn cerdded o gwmpas Faes yr Eisteddfod?

Mae’n siŵr ddim – ond nid jôc fydd prosiect rap arbennig sydd yn dod â’r digrifwr Daniel Glyn, y beatbosciwr Ed Holden a Bardd Plant Cymru Aneurin Karadog ar ei gilydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni.

Ar ddydd Iau’r ŵyl, 5 Awst, fe fydd y triawd yn crwydro’r meysydd carafanau a phebyll, a’r Maes ei hun, yn gofyn i bawb o bob oedran eu barn am sut fath o wlad hoffent fyw ynddi yn 2050.

Fel rhan o’r prosiect ‘Y Gymru a Garem’ fe fyddan nhw’n casglu barn am bob agwedd o Gymru, o’r hinsawdd i’r economi, o’r iaith i ddiwylliant y wlad.

Unwaith bydd y tri wedi casglu barn yr Eisteddfodwyr fe fyddan nhw’n mynd ati i greu cerdd gan ddefnyddio’r atebion a gasglwyd, cyn anfon Ed Holden, neu Mr Phormula, i greu trac sain unigryw i’r prosiect a rapio’r gerdd.

Bydd y trac yn cael ei lansio ar raglen C2 Huw Stephens y noson honno yn ogystal â chael ei darlledu’n fyw o Faes B, ac fe fydd hefyd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Gwthio diwylliant ymlaen

“Un o’r rhesymau fod yr Eisteddfod yn rhan mor bwysig o dreftadaeth Cymru yw oherwydd ei bod bob amser wedi gwthio diwylliant Cymru ymlaen, ond ar yr un pryd yn parchu traddodiadau’r gorffennol,” meddai Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o hyn, gan ei fod yn plethu llawer o wahanol arddulliau a mathau o gelfyddyd, ond mewn ffordd gynhenid ​​Gymreig. Ac wrth gwrs, yn ffordd wych o gael dysgu sut fath o wlad hoffai bobl Cymru.

“Bydd eich geiriau yn bwydo’r prosiect hwn, a hefyd y Sgwrs Genedlaethol, felly pan fyddwch yn gweld Ed, Daniel ac Aneurin, peidiwch â bod yn swil!”