Myfanwy Alexander
Mae undeb UNSAIN wedi galw ar Ddirprwy Arweinydd Cyngor Powys i ymddiswyddo wedi iddi wneud sylw hiliol mewn cyfarfod.

Ddoe, dywedodd arweinydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Barry Thomas, fod Myfanwy Alexander – sy’n chwaer i gyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru Helen Mary Jones –  wedi cael ei “cheryddu’n ddifrifol” ac y bydd yn mynychu hyfforddiant cydraddoldeb.

Heddiw, mae UNSAIN – yr undeb sy’n cynrychioli gweithwyr mewn llywodraeth leol – wedi galw arni i ymddiswyddo ar unwaith dros ei sylw.

Cefndir

Roedd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, sy’n byw yn Llanfair Caereinion ac sydd hefyd yn aelod cabinet dros yr iaith Gymraeg ar y cyngor, wedi gwneud y sylw mewn cyfarfod oedd yn trafod mynediad i wasanaethau iechyd yn Lloegr.

Mae’n debyg ei bod wedi dweud: “Rydyn ni’n cael ein trin fel n*****s dros y ffin. Mae ein hiaith a’n diwylliant yn cael ei sathru ac mae’n fater sensitif iawn. Dim ein bai ni yw hi os nad oes gennym ni ysbyty cyffredinol dosbarth i fynd iddo.”

Ymosodiad ar gymdeithas amlddiwylliannol

Dywedodd UNSAIN fod yn rhaid i’r term a gafodd ei a ddefnyddio gan Myfanwy Alexander gael ei weld fel ymosodiad ar ein “cymdeithas amlddiwylliannol”.

Meddai Andrew Woodman, trefnydd rhanbarthol UNSAIN: “Mae Ms Alexander yn dal swydd gyhoeddus ac mae’n rhaid iddi, felly, gynnal y safonau uchaf o ran ymddygiad ac iaith drwy’r adeg.

“Mae yna bobl ddu sy’n byw ac yn gweithio ym Mhowys. Sut ddylen nhw deimlo pan fydd eu cynrychiolydd etholedig yn defnyddio iaith o’r fath?”

Cyfeiriad

Dywedodd y Cynghorydd Barry Thomas bod Myfanwy Alexander wedi ymddiheuro ond ychwanegodd mai’r “rheswm ei bod hi wedi defnyddio’r gair arbennig hwnnw oedd oherwydd ei bod yn cyfeirio at ddisgrifiad Maya Angelou o wasanaeth iechyd annheg yn ne’r Unol Daleithiau.

“Doedd hi ddim yn bwriadu pechu yn erbyn neb.”

Meddai Andrew Woodman: “Mae gen i ddyfyniad arall i Ms Alexander gan yr awdur o Ganada, Pierre Burton: ‘Mae hiliaeth yn noddfa i’r anwybodus. Mae’n ceisio rhannu a dinistrio. Mae’n elyn i ryddid, ac yn haeddu cael daclo ar ei ben a’i ddifa’.

Ychwanegodd: “Does dim yn dod yn ôl o hyn. Dylai Ms Alexander ymddiswyddo a chywilyddio.”