Guto Bebb
Mae’r farn gyhoeddus yn Israel bron yn unfrydol o blaid yr ymgyrch filwrol yn Gaza ac mae’r boblogaeth yno’n teimlo “dan warchae”, yn ôl Aelod Seneddol Cymreig sydd newydd ddychwelyd o’r wlad.

Roedd Guto Bebb, Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, yn rhan o ddirprwyaeth o ASau trawsbleidiol o Brydain ac Awstralia a dreuliodd chwe diwrnod yn Israel yn ddiweddar.

Ar eu hymweliad – taith a gafodd ei threfnu nôl ym mis Ionawr – fe gyfarfon nhw â gwleidyddion Israel, llysgenhadon, pobl fusnes ac unigolion o’r Banc Gorllewinol.

Wrth siarad â golwg360 heddiw fe ddywedodd Guto Bebb ei fod yn “ddigalon iawn” ynglŷn â’r sefyllfa yn Gaza, gan ddweud fod y grŵp wedi codi pryderon difrifol ynglŷn ag ymgyrch fomio Israel ar eu hymweliad.

“Fe nodwyd ym mhob un o’n cyfarfodydd ni fod yna deimlad o ddicter ym Mhrydain ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei weld ar y sgrin deledu,” mynnodd Guto Bebb.

“Mae’n amhosib cyfiawnhau’r sefyllfa, felly fe wnaethon ni nodi hynny – byddai wedi bod yn gwbl amhriodol i beidio â chodi’r mater.”

Rhwystredigaeth Israel

Fe fynnodd yr Aelod Seneddol nad yw’n ceisio cyfiawnhau gweithredoedd Israel, ac mae ei fwriad yw esbonio beth yw eu safbwynt ar y sefyllfa.

Mae hyd yn oed pleidiau yn senedd Israel sydd yn cael eu hystyried yn llai milwrol wedi cefnogi’r ymgyrch filwrol ddiweddaraf, ac fe ddywedodd Bebb fod yr Israeliaid i gyd “yn gytûn” ar y mater.

“Mae’r farn gyhoeddus yn Israel 95% o blaid yr hyn sy’n digwydd, mae’n destun rhwystredigaeth lwyr i’r boblogaeth,” meddai. “Fe dynnwyd pob setlwr ac arf milwrol allan o Gaza yn 2006, ac maen nhw dal yn cael eu targedu [gan rocedi Hamas].

“Maen nhw [pobl Israel] yn teimlo eu bod nhw o dan warchae, rhaid cofio mai gwlad fach o ran maint yw Israel.”

Dywedodd Bebb fod yr Israeliaid yn “gynddeiriog” gyda beirniadaeth Barack Obama am y lladd yn Gaza, a’u bod yn cyhuddo’r Gorllewin o safonau dwbl dros labelu sifiliaid sy’n cael eu lladd yn llefydd fel Afghanistan fel ‘collateral damage’.

“Dw i ddim yn cyfiawnhau’r agwedd honno o gwbl – dyw dau ddrwg ddim yn gwneud da,” ychwanegodd Bebb.

Beio Hamas

Mae’r tanio wedi ailddechrau ar y ddwy ochr bellach, er i gadoediad ddechrau heddiw oedd i fod i bara 72 awr ddod i ben o fewn oriau.

Gyda’r ddwy ochr yn cyhuddo’i gilydd o dorri’r cadoediad, mae Guto Bebb yn dweud bod gan Hamas hanes o wneud hynny.

“Mae gweithredoedd Israel yn amhosib i’w hamddiffyn yng nghyd-destun faint sydd wedi cael eu lladd yn Gaza,” meddai. “Dw i ddim yn gwybod am un heddiw, ond tra roedden ni yno fe dorrodd Hamas gadoediad bum gwaith.”

Er bod Guto Bebb yn aelod o’r grŵp Seneddol ‘Conservative Friends of Israel’ dywedodd nad ymweliad wedi’u drefnu drwy’r grŵp hwnnw oedd hwn, gan gyfeirio at Aelodau Seneddol Llafur fel John Spellar ac Ian Lucas oedd hefyd ar y trip.

Dôm Haearn

Wnaeth y gwleidyddion ddim ymweld â Gaza oherwydd yr ymladd sydd yn parhau yno. Ond fe fuon nhw i weld rhai safleoedd milwrol Israel gan gynnwys y Dôm Haearn, y system sydd yn atal rocedi Hamas.

Ac mae’n dweud fod gan y system honno ran yn y rheswm y mae cymaint o bobl yn y Gorllewin wedi barnu bod ymateb milwrol Israel yn anghyfartal, gyda bron i 1,500 o Balestiniaid wedi marw bellach o’i gymharu â dros 60 o Israeliaid.

“Mae’n amlwg ei fod o’n disproportionate,” meddai Bebb. “Ond rhaid cofio bod 99.4% y cant o [daflegrau Hamas] yn cael eu dal gan yr Iron Dome.

“Dychmygwch tase un o rheiny ddim yn cael eu dal ac yn taro Tel Aviv a lladd cannoedd, fysa neb yn sôn am disproportionate wedyn.”

Ymyrryd rhyngwladol?

Yn ôl y Ceidwadwr, yr unig ateb hir dymor i’r gwrthdaro rhwng Hamas ac Israel, gan gynnwys codi’r blocâd ar Gaza, fyddai dad-filwreiddio’r llain a chael presenoldeb milwrol rhyngwladol.

“Dw i wedi clywed lot o wleidyddion yn condemnio, ond dim un yn dweud fod angen llu rhyngwladol yn Gaza,” meddai Guto Bebb. “Dw i heb glywed unrhyw un yn cynnig syniad creadigol o sut i stopio hyn.

“Byddai angen sicrwydd rhyngwladol … i wneud yn siŵr na allai Hamas ailarfogi.”

Fe gwestiynodd hefyd gymhelliant etholwyr sydd wedi cysylltu ag ef i gondemnio’r lladd yn Gaza a galw am ymyrraeth yno, heb wneud yr un peth ar gyfer rhyfeloedd eraill.

“Dw i heb gael yr un e-bost yn ymwneud â lladdfa Syria ers dechrau’r flwyddyn,” meddai. “Yr hyn dw i’n cael yw bod y sefyllfa ddyngarol yn warthus yn Gaza, a dw i’n gwbl gytûn.

“Ond mae’n anodd gwadu fod yna safonau dwbl yn y mater – y bobl sy’n galw am ymyrraeth yn Gaza yw’r un rhai oedd yn dweud na ddylen ni ymyrryd yn Syria.”

Stori: Iolo Cheung