Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru o’r farn y gall system Lloegr o brofi am y diciâu mewn gwartheg beri risg i ffermwyr yng Nghymru.

Anfonodd Rebecca Evans lythyr at Ysgrifennydd Gwladol Defra, Liz Truss, i dynnu sylw at y ffaith bod ffermwyr yng Nghymru yn pryderu bod gwartheg sydd heb eu profi am y diciâu yn cael eu symud o Loegr i Gymru.

Caiff gwartheg Cymru eu profi am y diciâu pob blwyddyn ond mae nifer sylweddol o fuchesi yn Lloegr, yn enwedig mewn ardaloedd risg  isel, yn cael eu profi unwaith bob tair i bedair blynedd.

Mae Rebecca Evans – Dirprwy Weinidog Amaeth Llywodraeth Cymru –  wedi galw am newid y rheolau yn Lloegr fel eu bod nhw’n debycach i rai Cymru.

Daeth ei galwad yn dilyn digwyddiad yn gynharach eleni pan gafodd gwartheg o Cumbria cael eu symud i nifer o leoedd gwahanol ym Mhrydain cyn darganfod fod ganddyn nhw’r diciâu.

Meddai Rebecca Evans: “”Mae pob buches yng Nghymru yn  derbyn prawf am y diciâu yn flynyddol ond fel mae pethau ar hyn o bryd, mae nifer sylweddol o fuchesi mewn ardaloedd isel ei risg yn Lloegr yn cael eu profi unwaith bob pedair blynedd.

“Er fy mod yn gwerthfawrogi bod y drefn brofi yn Lloegr wedi cael ei chynllunio i adlewyrchu darlun y clefyd yn lleol, mae hyn yn golygu bod posibilrwydd y gall gwartheg gael eu symud o Loegr i Gymru heb gael eu profi am y diciâu o gwbl.

“Mae ffermwyr Cymru sy’n ceisio prynu gwartheg o Loegr bŵer sylweddol fel prynwyr, a gallant helpu drwy ei gwneud yn glir eu bod nhw ddim ond am brynu gwartheg o Loegr sydd wedi cael ei brofi am y diciâu.”