Mae cwpl wynebu carchar ar ôl eu cael yn euog o wneud dyfais darganfod bom ffug yn eu sied.

Fe wnaethon nhw hefyd honni y byddai’r teclyn yn gallu dod o hyd i Madeleine McCann.

Clywodd y llys fod y gŵr a gwraig, Samuel a Joan Tree, wedi gwneud “honiadau ofnadwy” y gallai’r dyfeisiau ddod o hyd i ffrwydron a chyffuriau.

Ond mewn gwirionedd, roedd y ddyfais Alpha 6 a oedd yn cael eu marchnata trwy eu cwmni Keygrove yn ddim byd ond bocs plastig gydag erial fach arno ac wedi ei lenwi gyda phapur wedi ei rwygo.

Dim ond ychydig o bunnoedd oedd y ddyfais yn costio i’w wneud, ond roedd yn cael ei gwerthu am gymaint â £1,171.

Deallir bod y cwpl wedi gwneud cannoedd o filoedd o bunnoedd ar ôl cynhyrchu tua 1,500 o’r dyfeisiau mewn sied yn eu gardd.

Cafwyd y ddau yn euog yn yr Old Bailey heddiw o wneud gwrthrych i’w defnyddio mewn twyll rhwng mis Ionawr 2007 a mis Gorffennaf 2012.