Croatia
Mae tri o Brydeinwyr, dau ohonynt yn blant, wedi cael eu lladd ar ôl i’w car wrthdaro a lori yng Nghroatia.

Cafodd gyrrwr y car, oedd yn 37, ei ladd ynghyd a dau o blant yn Slano ger dinas Dubrovnik tua 7:50 bore heddiw.

Mae un ddynes a trydydd plentyn yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y ddamwain.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu lleol fod pawb oedd yn y car yn dod o’r DU ac roedden nhw’n gyrru car gyda rhif cofrestru car o’r DU hefyd.

Ni chafodd gyrrwr y lori, dyn 46 mlwydd oed o Dubrovnik, ei anafu.