Mae Israel yn bwriadu galw ar 16,000 o filwyr wrth gefn i ymuno a’r ymladd gwaedlyd yn Gaza.

Mae mwy na 1,360 o Balestiniaid wedi eu lladd ers i’r ymladd ddechrau ar 8 Gorffennaf. Mae 56 o filwyr a thri o bobl gyffredin wedi’u lladd yn Israel.

Daw’r penderfyniad i anfon rhagor o filwyr yn dilyn diwrnod o frwydro ffyrnig, gyda 116 o Balestiniaid wedi’u lladd ddoe a thri o filwyr Israel.

Mae 86,000 o filwyr bellach wedi ymuno a’r ymladd yn Gaza.

Yn y cyfamser mae Israel yn wynebu beirniadaeth lem ar ôl i daflegrau gael eu tanio at ysgol a oedd yn cael ei rhedeg gan y Cenhedloedd Unedig (CU) lle’r oedd ffoaduriaid yn cysgu,  a bu ffrwydron mewn marchnad a oedd yn llawn siopwyr yn ninas Gaza.

Roedd tua 3,300 o bobl Gaza yn ceisio lloches yn yr ysgol pan ddigwyddodd yr ymosodiad yn gynnar yn y bore. Yn ol swyddogion iechyd ym Mhalestina cafodd 17 o bobl eu lladd a 90 eu hanafu.

Dywedodd lluoedd Israel nad oedd adeiladau’r Cenhedloedd Unedig wedi’u targedu’n fwriadol ond bod milwyr wedi ymateb i ymosodiad gan Hamas oedd wedi ei dargedu at filwyr Israel ger yr ysgol.

Ond mae pennaeth asiantaeth ddyngarol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ffoaduriaid Palestina wedi mynegi dicter tuag at luoedd Israel, gan eu cyhuddo o dargedu un o adeiladau’r CU er eu bod wedi cael gwybod droeon bod yr adeilad yn llawn o ffoaduriaid.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y CU Ban Ki-moon wedi dweud bod yr ymosodiadau yn “warthus” ac mae wedi mynnu cadoediad brys.

“Does dim byd mwy cywilyddus nag ymosod ar blant sy’n cysgu,” meddai.

Mae’r Tŷ Gwyn hefyd wedi mynegi pryder am yr ymosodiad ar yr ysgol.