Mae chwarter plant 5 oed yng Nghymru dros eu pwysau, neu’n ordew, yn ôl adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl yr ymchwil, mae gan 26.8% o blant Cymru fynegai màs corfforol sy’n cael ei ystyried yn afiach.

Yn ôl y ffigurau, mae mwy o blant oedran dosbarth derbyn (26%) dros eu pwysau o’u cymharu â phlant o’r un oedran yn Lloegr.

Ar y cyfan, mae’r ymchwil yn dangos bod pwysau merched yn is ar gyfartaledd na bechgyn, ond mae’r ffigurau gordewdra – 11.4% ymhlith merched ac 11.3% ymhlith bechgyn – yn debyg iawn.

Ym Merthyr Tudful mae’r nifer fwyaf o blant sydd dros eu pwysau (16.4%), sydd mwy na dwywaith y ffigwr yn Sir Fynwy (7.5%).

Am y tro cyntaf eleni, cafodd cefndir ethnig y plant ei gofnodi ac mae’n ymddangos bod gordewdra’n fwyaf cyffredin ymhlith plant croenddu ac yn lleiaf cyffredin ymhlith plant o dras Asiaidd.

Daw’r ymchwil i’r casgliad bod cyswllt agos rhwng gordewdra ac ardaloedd difreintiedig, gan fod 29.4% o blant yng Nghymru sydd dros eu pwysau neu’n ordew yn byw mewn ardal ddifreintiedig.

‘Gofid’

Er bod y ffigwr wedi gostwng o’i gymharu â 2011/12, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n rhybuddio ei fod yn parhau i beri gofid.

Dywed yr adroddiad: “Yr hyn sy’n peri gofid yw pe bai’r wybodaeth yn adlewyrchu gwir gwymp mewn amlygrwydd, yna mae’r gwymp yn ymddangos yn fwy yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (o 9.4% i 7.8%) na’r gwymp mewn ardaloedd mwy difreintiedig (o 14.3% i 13.6%), ac mae’r bwlch go iawn rhwng amlygrwydd gordewdra rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig, felly, wedi cynyddu o 4.9% yn 2011/12 i 5.8% yn 2012/13.”