Mae ’na “ddiffygion difrifol” ym mharatoadau Nato i ddelio gydag unrhyw fygythiad milwrol gan Rwsia, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Seneddol.

Mae’r ansefydlogrwydd yn yr Wcrain o ganlyniad i weithredoedd Rwsia wedi tanlinellu’r diffygion yn ôl y Pwyllgor Amddiffyn.

Er bod y risg o ymosodiad milwrol confensiynol yn “isel”, mae ’na bryder y gallai’r Arlywydd Vladimir Putin ddefnyddio tactegau mwy anghonfensiynol fel sydd wedi digwydd yn yr Wcrain, yn ôl y pwyllgor.

Fe ddylai Nato weithredu ar frys i gyflwyno “diwygiadau radical” i baratoi am ymosodiad o’r fath, gan gynnwys cael presenoldeb milwrol Nato yn rhai o wledydd y Baltig sydd dan fygythiad megis Estonia, Latfia a Lithwania, meddai’r panel trawsbleidiol o ASau.