Mae elw Nwy Prydain wedi gostwng 26% i £265 miliwn am hanner cynta’r flwyddyn, yn ôl perchennog y cwmni Centrica.
Mae’r elw’n ymwneud a chyflenwad ynni i gartrefi.
Dywed y cwmni bod y tywydd mwyn wedi effeithio’i elw.
Mae elw’r grŵp Centrica hefyd wedi gostwng 35% i £1.03 biliwn.
Dywedodd y prif weithredwr Sam Laidlaw bod “amodau heriol” yn y farchnad wedi cyfrannu at y gostyngiad ond bod y grŵp mewn sefyllfa well i weld twf yn 2015.
Mae’r cwmnïau ynni wedi bod dan bwysau i leihau biliau cwsmeriaid ar ôl i Ofgem ddweud y dylai’r biliau adlewyrchu’r gostyngiad ym mhrisiau nwy a thrydan.