Claire Dyer (o'r ddieseb ar y We)
Mae posibilrwydd y bydd rhaid i ferch awtistig o Gymru symud i Brighton gan nad oes lle iddi mewn safle yng Nghymru.

Mae ei rhieni wedi dechrau deiseb i geisio atal hynny gan obeithio perswadio Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i ganiatáu i’w merch aros yng Nghymru.

Dywedodd y fam, Catherine Dyer o ardal Abertawe y byddai symud i Sussex yn “torri calon” ei merch.

Cefndir

Mae Claire Dyer yn 20 mlwydd oed. Mae ganddi awtistiaeth, anableddau dysgu ac ymddygiad heriol.

Mae Claire a’i theulu wedi clywed y bydd Claire yn cael ei symud o Abertawe i uned ddiogelwch ganolig yn Sussex.

Rhwygo

“Dydyn ni ddim am i’n teulu ni gael ei rwygo ar wahân a dyw ein merch annwyl ni ddim eisiau bod mor bell i ffwrdd oddi wrthym ni,” meddai Cath Dyer yn y ddeiseb.

“Mae ganddi lais ac mae hi’n dweud wrth bawb nad yw hi eisiau mynd mor bell. Yn sicr, dydyn ni ddim am iddi fynd mor bell i ffwrdd”.

Bydd gwrandawiad llys yn cael ei gynnal ddydd Gwener yn Llundain i weld a fydd rhaid iddi symud i Brighton ai peidio.

Mae’r teulu wedi bod yn brwydro ers rhai misoedd i geisio cadw Claire yng Nghymru, gan ddweud ei bod wedi cael addewid o gartref gofal o fewn cyrraedd i’w chartre’.

Mae’r ddeiseb gan y teulu i’w weld yma: http://www.change.org/en-GB/petitions/abertawe-bro-morgannwg-health-board-keep-claire-who-has-autism-and-challenging-behaviour-in-wales-where-she-wants-to-be-close-to-us-her-family