Academi Hwylio Pwllheli - y cynllun
Mae gwaith adeiladu wedi cychwyn ar gynllun i ddatblygu adeilad Academi Hwylio ym Mhwllheli.
Bydd yr Academi Hwylio Genedlaethol Cymru ym Mhenrhyn Glan Don yn costio £4 miliwn ac mae’n rhan o becyn £8.3 miliwn gan Gyngor Gwynedd i gryfhau’r diwydiant morol a hwylio yn y dref.
Mae’r cyngor yn gado y bydd yr adeilad newydd yn “ganolfan i gynnal digwyddiadau a chystadlaethau hwylio gyda’r gorau yn y byd”.
Yn ôl Stephen Tudor, Cadeirydd Plas Heli Cyf, sef y corff gwirfoddol sydd wedi ei sefydlu i reoli’r academi: “ “Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn ac fe welwn flynyddoedd o waith yn cael eu gwireddu yma. Mae’r cynllun yn un cyffrous i ddyfodol Pwllheli.
“Yn dilyn misoedd o waith datblygu ac ymgynghori mae’r pecyn o waith sydd ynghlwm a’r cynllun bellach yn ei le, gyda gwaith sylweddol o garthu’r harbwr a gosod angorfeydd newydd eisoes wedi eu gwneud oddi yn yr harbwr.”