Senedd Sbaen
Mae arweinydd Catalwnia, Artur Mas wedi mynnu y bydd y wlad yn cynnal refferendwm annibyniaeth ym mis Tachwedd.
Cyhoeddodd ei fwriad yn ystod cyfarfod â Phrif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy yng Nghatalwnia heddiw.
Cyfarfu’r ddau am ddwy awr heddiw ond ni ddaethon nhw i gytundeb ar fater y refferendwm.
Ond mae’n ymddangos bod rhywfaint o barodrwydd i barhau â’r trafodaethau, wedi i Mas ddweud ei fod yn awyddus i dderbyn sêl bendith Sbaen i gynnal y refferendwm.
Mae Sbaen hyd yma wedi gwrthod yr hawl i Gatalwnia gynnal refferendwm, wrth iddi geisio wella o sefyllfa economaidd druenus.
Dywed Rajoy y byddai cynnal refferendwm yn gweithredu’n groes i gyfansoddiad Sbaen, ac mae Mas wedi dadlau nad oes modd cynnal trafodaethau call tra bod Sbaen yn parhau i wrthwynebu pob ymgais gan Gatalwnia i gynnal refferendwm.
Ar hyn o bryd, mae polau piniwn yn awgrymu’n gryf fod y rhan fwyaf o Gatalwniaid o blaid annibyniaeth, ond mae Sbaen yn gwrthod cydnabod y canlyniadau.
Mae Sbaen yn dadlau na all Catalwniaid benderfynu eu tynged ar eu pen eu hunain, gan y byddai’n effeithio ar Sbaen gyfan.
Mae rhai wedi galw am addasu Cyfansoddiad Sbaen er mwyn cael cynnal y refferendwm ar Dachwedd 9 ac mae disgwyl i ymgyrch bellach gael ei sefydlu ar Fedi 11, sef Diwrnod Cenedlaethol Catalwnia.