Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhybuddio bod galwadau ffug yn Ne Cymru’n costio miloedd o bunnau’r flwyddyn i’r economi leol, yn ogystal â rhoi bywydau mewn perygl. Yn ôl ffigyrau a gyhoeddir heddiw, gwnaethpwyd 1,194 o alwadau ffug i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn 2013.
Er hynny, roedd y nifer yn 31% yn llai o’i gymharu â’r 1,749 o alwadau a dderbyniwyd yn ystod yr un cyfnod yn 2012.
Dros y Deyrnas Unedig, amcangyfrifir bod tua hanner y galwadau argyfwng a dderbyniwyd drwy 999 y llynedd yn alwadau ffug.
Mae Gwasanaeth Tan ac Achub nawr yn apelio ar bobl i stopio a meddwl cyn ffonio 999. Dywedodd Jennie Griffiths, pennaeth rheoli tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae’n rhaid i ymladdwyr tân ymateb i bob galwad argyfwng a wnaed. Os ydynt yn cyrraedd safle ac yn darganfod mai galwad ffug yw e, gall hwn eu hoedi rhag mynychu digwyddiad argyfwng difrifol, lle gellir bod gofyn iddynt achub rhywun sy’n gaeth mewn tân mewn tŷ neu mewn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd.”
Meddai Dewi Jones, Pennaeth Uned Trosedd Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, “Mae’n anghyfreithlon i wneud galwad ffug maleisus. Os cânt eu dal a’u herlyn, gall yr unigolion hyn wynebu dirwy o hyd at £5,000 neu chwe mis mewn carchar. Gellir datgysylltu eu ffonau hefyd.”