Darn o awyren MH17
Mae arsyllwyr rhyngwladol wedi rhoi’r gorau am y tro i ymgais i gyrraedd y safle damwain awyren Malaysia Airlines yn yr Wcrain.

Fe gychwynnodd arsyllwyr gydag ymchwilwyr o’r Iseldiroedd mewn dau gerbyd, ac fe fuon nhw’n ceisio cyrraedd y safle ers rhai diwrnodau.

Ond fe benderfynodd y grwpiau ddychwelyd i ddinas Donetsk yn dilyn trafodaethau am ddiogelwch oherwydd ymladd rhwng y lluoedd arfog a gwrthryfelwyr.

Mae nifer o lywodraethau wedi cwyno nad yw’r safle’n ddiogel.

Dyma’r ail ddigwyddiad o’r fath eleni, wedi awyren Malaysia Airlines MH370 ddiflannu ym mis Mawrth.

Bu farw 19 o bobol yn ystod terfysgoedd yn nwyrain yr Wcráin yn ystod y 24 awr diwethaf.