Mae beth bynnag 13 o bobol wedi’u lladd, wedi ymosodiad tanc ar ysgol y Cenhedloedd Unedig yn Gaza.

Roedd cannoedd o Balesteiniaid wedi bod yn llochesu yno rhag ymosodiadau byddin Israel.

Mae’r awdurdodau hefyd yn dweud fod 90 o Balesteiniaid wedi’u hanafu yn yr un digwyddiad yn gynharach heddiw.

Fe darodd y bomiau Ysgol Abu Hussein yng ngwersyll ffoaduriaid Jabaliya tua 4.30yb.

Fe ddaw’r ymosodiad hwn ddiwrnod wedi i Israel gynnal ei hymosodiad gwaetha’ yn Gaza ers dechrau’r rhyfel tair wythnos diweddara’ hwn.

Maen nhw wedi bod yn targedu pob symbol o reolaeth Hamas ar y tir, yn cynnwys yr unig orsaf bwer yno, a gorsaf gyfathrebu.