Darn o awyren MH17, Malaysia Airlines, Wcrain (Llun: PA)
Mae arbenigwyr yn yr Iseldiroedd wedi adnabod y cyntaf o’r cyrff o awyren MH17 Malaysian Airlines syrthiodd o’r awyr uwchben yr Wcrain yn ddiweddar.
Bydd heddlu di-arfog o Awstralia yn ymuno efo carfan o heddlu ac arbenigwyr fforensig o‘r Iseldiroedd yfory er mwyn chwilio am gyrff rhagor o deithwyr mewn ardal sydd yn ymestyn dros 20 milltir yn nwyrain Wcrain.
Dywedodd Prif Weinidog Awstralia, Tony Abbott y bydd yr heddlu yn ddi-arfog er mwyn osgoi’r angen i lywodraeth yr Wcrain roi sêl bendith i’r cynllun.
Credir bod yr awyren wedi cael ei saethu o’r awyr gan wrthryfelwyr yn yr Wcrain sy’n gefnogol i Rwsia.
Mae’r gwrthryfelwyr yn gyndyn iawn i adael i bobl fynd yn agos i weddillion yr awyren.