Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf am y Cymry sy’n cystadlu heddiw.

*Elinor Barker yn cipio arian yn y seiclo

*Cordina, Davies a Thorley drwyddo yn y bocsio

*Y tîm rygbi saith bob ochr yn ildio ceisiau hwyr

*Noson siomedig yn y pwll

22.50: Canlyniadau olaf y dydd i chi – fe orffennodd nofwyr Cymru’n chweched yn y ras 4x200m dull rhydd yn y pwll, ac fe gollodd Kody Davies yn ei ornest focsio 91kg i Stephen Lavelle o’r Alban.

21.07: Ac yn ffeinal 50m dull cefn y dynion dim llwyddiant i Marco Loughran chwaith, wrth iddo ef orffen yn chweched yn y ras.

Yr unig Gymry ar ôl i gystadlu heddiw yw tîm ras gyfnewid y ras nofio 4x200m dull rhydd, ac yna Kody Davies yn rownd 16 olaf y bocsio 91kg.

21.05: Yr un hen stori i dîm rygbi saith bob ochr Cymru eto, wrth iddyn nhw golli 17-15 i Loegr yn ffeinal y plat gan ildio cais yn y funud olaf.

Yn rhagbrofion y pwll mae’r Cymry i gyd allan yn y rowndiau cynderfynol, gyda Chloe Tutton yn chweched 100m dull broga, Tom Laxton yn chweched 100m dull pili pala, Rob Holderness yn bumed 50 y dull broga, a Hannah McCarthy yn chweched yn y 100m dull rhydd.

19.16: Yn ras olaf y Cymry yn y velodrome fe orffennodd Sam Harrison yn seithfed ac Owain Doull yn 15eg yn ras sgratsh y dynion. Dim rhagor o fedalau seiclo i’w hychwanegu at ddwy Elinor Barker felly, yr unig rai mae Cymru wedi cipio ar y beic, ac mae un yn llai na’r targed a osodwyd cyn y Gemau ar gyfer y tîm seiclo.

18.46: Tîm rygbi saith bob ochr Cymru wedi curo Kenya 28-5 bellach yn rownd gynderfynol y plat gyda llaw, ac mae Deon Seffrey hefyd newydd ennill yn rownd gynderfynol y plat yn senglau sboncen y merched, 3-0 yn erbyn Vanessa Florens o Mauritius.

Fe fydd Cymru nawr yn herio Lloegr yn ffeinal plat y rygbi saith bob ochr nes ymlaen.

Ar hyn o bryd mae Owain Doull, Sam Harrison a Jon Mould yng nghanol ffeinal ras sgratsh y dynion ar y trac.

A nes ymlaen fe fydd Marco Loughran yn nofio ffeinal 50m y dull cefn, gyda thîm ras gyfnewid y dynion hefyd yn ffeinal y 4x200m dull rhydd, yn ogystal â rasys cynderfynol i rai o’r Cymry eraill.

17.59: Mor, mor agos. Ras wych gan Barker, a gasglodd y pwyntiau’n gyson, ac er bod ganddi fedal arian doedd dim byd rhyngddi hi a Trott. Wedi dweud hynny, mae’r ferch 19 oed yn wên i gyd o flaen y camerâu ar ddiwedd y ras beth bynnag.

17.52: MEDAL ARIAN I GYMRU!

Dyna fedal cyntaf y dydd i Gymru, ac mae’n arian i Elinor Barker yn ras bwyntiau’r merched! Ond mae’n hollol rwystredig iddi hi, wrth iddi orffen yn hafal â Laura Trott ar 37 o bwyntiau.

Y Saesnes sydd yn cipio’r aur am iddi hi orffen yn ail yn y sbrint olaf – a Barker fodfeddi y tu ôl iddi yn drydydd – felly er gwaethaf y ffaith ei bod hi’n arwain y gystadleuaeth wrth gyrraedd y lap olaf dim ond arian fydd hi’n ei gael.

17.50: Carys Parry newydd orffen yn bedwerydd yn rhagbrawf y taflu morthwyl, ond mae’r drama’n digwydd ar y trac yn ras bwyntiau’r merched gydag Elinor Barker …

17.07: Rhagor o lwyddiant boscio i Gymru wrth i Nathan Thorley ennill ei ornest 81kg yn gyfforddus yn erbyn Benjamin Taualii o Tonga – mae e drwyddo i’r wyth olaf.

Dim cystal i Lewis Oliva yn y keirin ar y trac seiclo fodd bynnag, wrth iddo gael ei wasgu allan gan Hugo Barrette o Canada ar ddiwedd y repechage, a hynny’n golygu ei fod allan o’r gystadleuaeth.

16.54: Canlyniad ar y trac i chi, gyda ffeinal treial amser 1000m B y para-seiclo i ferched. Cymru gyda Rachel James a Rhiannon Henry ar y tandem yn anffodus yn chweched yn y ffeinal, felly dim medal.

Ambell i ganlyniad o’r athletau hefyd. Gareth Winter a Ryan Jones yn gorffen yn wythfed yn eu rhagbrofion taflu siot nhw felly ddim drwyddo’n anffodus, tra bod amseroedd Rachel Johncock (4ydd) a Hanner Brier (5ed) yn rhagbrofion 100m y merched ddim digon cyflym i fynd drwyddo chwaith.

16.13: Mwy o ganlyniadau wedi’n cyrraedd ni erbyn hyn, ac fe ddechreuwn ni gyda ffeinal y para-naid hir i ferched, ble mae dwy o’r Cymry wedi gwneud yn dda tu hwnt.

Yn anffodus dim medal, ond fe orffennodd Olivia Breen yn bedwerydd a Beverley Jones yn chweched.

Yn y bocsio mae Zack Davies drwyddo i’r wyth olaf ar ôl trechu Waheed Sogbanmu o Nigeria’n unfrydol yn y categori 64kg.

Yn rasys rhagbrawf y seiclo scratsh i ddynion, fe orffennodd Jon Mould yn ddegfed, gyda Sam Harrison yn 11eg ac Owain Doull yn 12fed, ond maen nhw i gyd drwyddo i’r ffeinal heno.

Yn anffodus i Lewis Oliva, dim cystal lwc yn ei ragras keirin i ddynion, wrth iddo orffen yn drydydd.

15.16: Yr unig ganlyniad arall i’r Cymry hyd yn hyn yw bod Scott Fitzgerald wedi trechu Mwinga Lengwe yn rownd gynderfynol y plat yn senglau sboncen y dynion. Fel ddywedais i, mae’n araf deg ar hyn o bryd o ran canlyniadau.

Un criw sydd ddim yn araf o bell ffordd yw’r rhedwyr 100m, sydd newydd ddechrau eu rhagbrofion. Yn anffodus dim Cymry yn y gystadleuaeth honno.

Peidiwch a phoeni, fodd bynnag – mae yna Gymry yn y sgwar boscio, naid hir, ac ar y trac seiclo’r prynhawn yma felly fe ddown ni a’r canlyniadau yna i chi nes ymlaen.

14.13: Yn y bocsio mae Joseph Cordina newydd ennill ei ornest 60kg yn gyfforddus yn erbyn David Gauthier o Ganada yn rownd yr 16 olaf. Zack Davies hefyd yn ymladd nes ymlaen, ond fel arall mae hi wedi distewi o ran y Cymry sy’n cystadlu.

12.55: Newyddion gwell yn rhagbrofion y pwll, fodd bynnag, ble mae’r Cymry’n parhau i wneud yn dda.

Mae’r dynion newydd orffen yn drydydd yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd a thorri record Cymru, ac mae Jazz Carlin wedi gwneud hyd yn oed yn well yn y 800m dull rhydd i ferched drwy orffen yn gyntaf a thorri record y Gymanwlad! Ellena Jones yn anffodus ddim ond yn chweched yn ras Carlin.

12.50: Yr un hen stori i rygbi Cymru. Y tîm saith bob ochr yn ennill 19-0 yn erbyn Awstralia gyda munud i fynd o’r hanner cyntaf, cyn ildio cais hwyr.

Yna gwastraffu cyfle euraidd yn yr ail hanner i sicrhau’r canlyniad, cyn gadael i Awstralia sgorio cais hwyr a chipio’r gêm o 21-19. Hemisffer y de’n drech na ni eto, a’r chwaraewyr mewn dagrau ar y diwedd.

12.05: Dyw hi ddim yn fore prysur iawn i’r Cymry, ond cwpl o ganlyniadau nofio eraill i chi ers y tro diwethaf.

Mae Rachel Williams wedi gorffen yn bumed yn y 200m medli unigol i ferched, a Tom Laxton yn drydydd yn ras 100m dull pili pala’r dynion.

Yna yn rhagbrofion 100m y dull broga mae Chloe Tutton wedi gorffen yn bedwerydd yn ei ras hi a Bethan Sloan yn chweched.

Or rheiny, mae Laxton a Tutton drwyddo i’r rasys cynderfynol. Gyda llaw fe orffennodd Andrew Davies yn 17eg yn y marathon, mewn amser o 2:18:59.

11.18: Mwy o ganlyniadau’r pwll o chi – Rob Holderness yn drydydd yn ei ragras 50m dull broga, a drwyddo i’r ffeinal heno gyda record Gymraeg.

Yn eu rasys rhabgrawf 100m dull rhydd y merched nhw fe orffennodd Hannah McCarthy yn bumed, Sian Morgan yn chweched, Mari Davies yn seithfed – McCarthy yw’r unig un drwyddo i’r rasys cynderfynol.

Ac yn y bowlio lawnt, mae trioedd dynion Cymru newydd golli 12-20 i Ogledd Iwerddon yn eu gêm cynderfynol nhw.

10.49: Fe ddechreuoedd cystadlu’r Cymry y bore yma gyda’r bowlio lawnt. Mae’r marathon eisoes yn cael ei redeg, gyda chystadleuaeth saethu hefyd yn digwydd heddiw.

Ond mae’r prif fwrlwm yn y pwll, ble mae rhagbrofion nifer o’r Cymry’n digwydd cyn hanner dydd. Fe ddown ni a’r canlyniadau i chi fel maen nhw’n ein cyrraedd.

Rhagbrofion ras y 200m dull cefn i ferched yw’r cyntaf, gyda Rachel Williams yn gorffen yn bumed yn ei ras hi mewn amser o 2:16.53 a Danielle Stirrat yn chweched yn ei ras hithau, rhyw chwe eiliad yn arafach na hynny.

10.43: Fe fydd rhagor o sêr Cymru’n cystadlu eto heddiw, gan gynnwys y nofwyr Jazz Carlin, Rob Holderness a Marco Loughran. Mae nifer o’r bocswyr hefyd yn ymladd eto heddiw, tra bod Robert Weale yn cystadlu’n unigol yn y bowlio lawnt.

Bydd Cymru hefyd yn herio Awstralia yn rownd wyth olaf y rygbi saith bob ochr, tra bod Andrew Davies yn rhedeg marathon y dynion heddiw.

Mae’r athletau hefyd yn dechrau yn Hampden Park, ac ymysg y Cymry fydd yn cystadlu cyn diwedd y dydd mae Carys Parry (taflu morthwyl) ac Olivia Breen a Beverley Jones (naid hir para-athletau).

Yn nes ymlaen fe fydd rhai o’r seiclwyr hefyd yn cystadlu am fedalau, gan gynnwys Elinor Barker ac Owain Doull.

10.30: Bore da i chi, a chroeso i flog byw golwg360 yn dilyn y Cymry yng Ngemau’r Gymanwlad. Os fethoch chi’r cystadlu ddoe gan eich bod chi allan yn y tywydd braf, wel, digon teg, ond fe fethoch chi ddiwrnod hanesyddol i dîm Cymru!

Fe enillwyd un ar ddeg medal yn gyfan gwbl, gan gynnwys aur i Frankie Jones yn y gymnasteg rythmig a Natalie Powell yn y jiwdo.

Cafwyd medalau nofio, seiclo, jiwdo a chodi pwysau hefyd, i godi cyfanswm medalau Cymru i 17 ar ôl tri diwrnod. Tybed faint fydd yn llwyddiannus heddiw?