Fe allai Rwsia wahardd McDonald’s rhag gwerthu bwyd cyflym yn y wlad.
Mae asiantaeth gwarchod defnyddwyr yn Rwsia wedi cadarnhau eu bod yn mynd a’r cwmni i gyfraith am werthu bwyd sy’n cynnwys mwy o fraster a charbohydradau nag sy’n cael ei ganiatau gan y gyfraith.
Dyw McDonald’s ddim eto wedi ymateb i’r cyhuddiad.
Ond fe ddaw y symudiad hwn mewn cyfnod llawn tensiwn rhwng Rwsia a’r Unol Daleithiau, rhwng Moscow a Washington, dros y creisis yn Yr Wcrain.
Mae’r Unol Daleithiau wedi taro Rwsia yn galed gyda nifer o sancsiynau.