Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion, wedi ymosodiad difrifol yn Aberdar neithiwr.

Roedd bachgen 15 oed yn Stryd Weatherall, pan ddaeth dyn arall ac ymosod arno. Fe ddioddefodd anafiadau difrifol i’w ben.


Mae ditectifs yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn ardal Stryd Seymour neu Stryd Weatherall tua 11yh neithiwr.

Maen nhw’n arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn nhafarn y Cumbrian Inn o gwmpas amser cau ac a allai fod wedi gweld y dioddefwr cyn yr ymosodiad.

Yn ogystal, mae Heddlu De Cymru yn ceisio dod o hyd i ddau gar oedd yn yr ardal tua’r un adeg – y naill o liw aur, a’r llall yn arian. Gallai’r ceir fod wedi bod yn teithio mewn confoi.

Mae’r ardal o gwmpas Stryd Weatherall wedi cael ei gau i ffwrdd tra bod yr heddlu’n gwneud eu hymholiadau.