Mae 14 o deithwyr Shiite wedi cael eu lladd yng ngorllewin Afghanistan, wedi i’r bws mini yr oedden nhw’n teithio ynddo gael ei rwystro gan wrthryfelwyr y Taliban.
Fe gawson nhw eu saethu ar fin y ffordd yn nhalaith Ghor. Roedd tua 30 o bobol yn teithio yn y cerbyd a oedd wedi cychwyn ar ei siwrnai yn Kabul, wedi i’r teithiwyr fod yn siopau yno ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.
Ar ôl iddyn nhw stopio’r cerbyd, fe fuodd y gwrthryfelwyr yn holi’r teithwyr, gan nodi fod 14 ohonyn nhw – a thair o’r rheiny’n fenywod – yn Shiites Hazara. Fe gafodd dwylo’r 14 eu clymu, cyn iddyn nhw gael eu harwain oddi ar y bws mini a’u saethu.
Mae’r meirw yn cynnwys cwpwl oedd wedi dyweddïo, a dau o’u perthnasau.