Mae un o gyfeillion agosa’ Dug Caergrawnt wedi cael ei wahardd rhag gyrru am y trydydd tro, ar ôl ei gael yn euog o yfed a gyrru ar ei ffordd adre’ o glwb nos yn Llundain.
Mae Guy Pelly wedi’i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner, ac wedi’i orchymyn i dalu cyfanswm o £7,120 o ddirwyon a chostau.
Fe glywodd Llys Ynadon San Steffan mai dyma’r eildro i Guy Pelly gael ei wahardd rhang gyrru am yfed a gyrru.
Yn 2001, fe gollodd ei drwydded am ddwy flynedd wedi iddo gael ei ddal yn yfed a gyrru ar ei ffordd adre’ i’w fflat coleg, ar ôl bod mewn parti trwy’r nos yn ystod wythnos y glas.
Yn 2012, fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 56 diwrnod am or-yrru.