Rhys Williams wedi methu prawf cyffuriau (llun: Erik van Leeuwen)
Mae rhagor o drafferthion wedi taro tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar ôl i’r athletwr Rhys Williams fethu prawf cyffuriau.

Mae Tîm Cymru wedi cadarnhau na fydd Rhys Williams, sy’n fab i gyn-chwaraewr rygbi Cymru JJ Williams, yn rhedeg ras 400m dros y clwydi yn Glasgow.

Daw hyn wythnos yn unig ar ôl i un o athletwyr eraill y tîm, y rhedwr 800m Gareth Warburton, orfod tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth ar ôl methu prawf cyffuriau.

Fe fydd yn cael gwaharddiad awtomatig gan yr awdurdodau athletau ar ôl methu’r prawf yn dilyn cystadleuaeth y Glasgow Grand Prix ar 11 Gorffennaf.

Bydd Rhys Williams yn cael gwrandawiad er mwyn ymateb i’r cyhuddiadau, ond yn y cyfamser ni fydd yn cael cystadlu o gwbl. Does dim manylion eto ynglŷn â beth achosodd iddo fethu’r prawf cyffuriau.

Ergyd arall

Mae tîm Cymru wedi diodde’ sawl ergyd i’w gobeithio o ennill 27 medal yng Glasgow eleni.

Yn ogystal â Williams a Warburton, ni chafodd y bocsiwr Fred Evans ganiatâd i gystadlu gan y Swyddfa Gartref ar ôl iddyn nhw ymchwilio i’w gefndir troseddol.

Mae’r pencampwyr byd Becky James (seiclo), Non Stanford a Helen Jenkins (triathlon) yn absennol oherwydd anafiadau hefyd.