Mae BSkyB wedi ehangu ei ymherodraeth teledu heddiw gan wario £5.3 biliwn ar brynu chwaer gwmnïau yn yr Eidal a’r Almaen.

Mae cytundeb y darlledwr gyda 21st Century Fox, sy’n cael ei reoli gan Rupert Murdoch, yn ei weld yn prynu Sky Italia i gyd am £2.45 biliwn ac yn prynu siâr o 57.4% yn Sky Deutschland am £2.9 biliwn.

Bydd BSkyB nawr yn gwasanaethu 20 miliwn mewn tri allan o bedwar o farchnadoedd teledu mwyaf Ewrop.

Bydd yr elw fydd BSkyB yn ei wneud yn gymorth i 21st Century Fox yn ei ymdrech i brynu Time Warner. Cafodd cynnig o £47 biliwn ei wrthod yn gynharach y mis hwn.

Mae 21st Century Fox, sydd berchen ar 39% o BSkyB, yn cynnwys sianel newyddion Fox News, rhwydwaith Fox sy’n gyfrifol am gynhyrchu The Simpsons a Family Guy, yn ogystal â stiwdio Hollywood 20th Century Fox.