Dylan Ebenezer
O fis Medi ymlaen, bydd rhaglen chwaraeon pum awr o hyd yn cael ei darlledu ar S4C.

Bydd Clwb, sy’n dechrau ar 7 Medi, ac yn ystod y tymor bydd yn dangos rygbi byw a phêl-droed byw o Uwch Gynghrair Cymru.

Yn ogystal, bydd y rhaglen yn dangos uchafbwyntiau wythnosol o Uwch Gynghrair Cymru, rasys seiclo rhyngwladol, ralїo, rhedeg ac athletau.

Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno Clwb bob prynhawn dydd Sul ar S4C a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys y newyddion diweddaraf o gemau uwch gynghrair pêl-droed Lloegr sy’n digwydd ar y pryd.

Yn ôl S4C, bydd Dylan Ebenezer yn croesawu gwesteion amrywiol i’r stiwdio yng Nghaernarfon i drafod y pynciau, campau, timau, y perfformwyr a’r chwaraewyr y mae pobl Cymru yn eu caru a’u casáu, eu cefnogi a’u herio.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd barn y cefnogwyr yn cael lle teilwng ar y rhaglen wrth i sylwadau trydar a negeseuon testun gael eu crynhoi.

‘Angerddol’

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: “Rydym yn wlad sy’n angerddol am chwaraeon ac yn feithrinfa i berfformwyr o safon byd.  Mae pobl Cymru’n gwybod bod chwaraeon yn rhan bwysig o’n darpariaeth fel sianel ac mae dyfodiad Clwb yn esblygiad gwych fydd yn cynnig mwy i’r gynulleidfa.

“Bydd yna le amlwg yn y Clwb i’n campau traddodiadol, fel rygbi a phêl-droed, ond ochr yn ochr â’r rhain, rydym am roi llwyfan priodol i chwaraeon sy’n tyfu yn eu poblogrwydd.  Mae seiclo’n enghraifft wych o gamp sy’n tyfu drwy’r amser a fydd yn cael sylw cyson ar Clwb, a bydd digon o le hefyd i gampau megis athletau, ralio, nofio, gymnasteg a llu o chwaraeon eraill.”