Mae naw o lorïau wedi cyrraedd Syria yn cario bwyd ac adnoddau eraill.

Fe groeson nhw’r ffin rhwng Twrci a Syria heddiw, dan orchymyn y Cenhedloedd Unedig, ond heb dderbyn caniatâd llywodraeth y wlad.

Yn ôl Amanda Pitt, llefarydd ar ran Swyddfa Cydlynu Materion Dyngarol y Cenhedloedd Unedig, mae’r lorïau’n llawn o fwyd y mae dirfawr angen amdano, ynghyd â thabledi puro dwr, cysgodfeydd a nwyddau glanhau.

Fe groesodd y confoi i mewn i Syria yn Bab al-Salam, gan anelu am ardaloedd lle mae gwrthwynebwyr yr Arlywydd Assad yn rheoli. Dyw hi ddim yn glir i ba ardaloedd yn union y maen nhw’n mynd.