Jeremy Hunt, Ysgrifennydd Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae Ysgrifennydd Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig, Jeremy Hunt, wedi gorchymyn archwiliad diogelwch o ddwy ffatri gywion ieir, yn dilyn ymchwiliad gan bapur newydd sy’n honni datgelu methiannau o ran safonau glendid.

Mae’r honiadau yn ymwneud â dau o’r prosesyddion cywion ieir mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sef 2 Sisters Food Group a Faccenda. Mae gan 2 Sisters ffatri yn Llangefni, Ynys Môn.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Guardian, roedd lloriau rhai o’r ffatrïoedd yn gorlifo â pherfedd cywion ieir ac roedd ieir wedi cael eu trin yn dod i gysylltiad ag esgidiau gweithwyr cyn cael eu rhoi nôl ar y llinell gynhyrchu.

Dywedodd y papur newydd fod ei adroddiad yn seiliedig ar ffilm gudd, tystiolaeth ffotograffig a gwybodaeth gan weithwyr oedd yn ymwneud â safonau hylendid y diwydiant i atal heintio cyw iâr â’r haint, campylobacter.

Mae’r ddau gwmni’n gwadu honiadau.

Dyw adolygiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) o dystiolaeth y Guardian heb ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth “o risg i iechyd y cyhoedd”, ond meddai llefarydd ar ran Jeremy Hunt y bydd ffatrioedd 2 Sisters Food Group yn Llangefni a Scunthorpe yn cael eu harchwilio yn y 24 awr nesaf.

Meddai’r llefarydd: “Rydyn ni am i’r cyhoedd deimlo sicrwydd bod y bwyd maen nhw’n ei brynu’n ddiogel. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd eisoes wedi adolygu tystiolaeth y Guardian a heb ddod o hyd i unrhyw risg i iechyd y cyhoedd.”