Mae pedwerdydd dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, yn dilyn achos o drywanu yng ngogledd orllewin Llundain

Fe laddwyd Zydrunas Laurinavicius, 38, yn Hendon, gogledd-orllewin Llundain, ar Orffennaf 3.

Mae disgwyl i Bruno Guimaraes, 22, ymddangos gerbron Llys Ynadon Hendon heddiw. Mae Marlon O’Brien, 21; Terae Eusebe, 20; a Terngu Agera, 23, eisoes wedi bod i’r llys mewn perthynas â’r farwolaeth.

Mae tri o bobol eraill wedi’u harestio mewn perthynas â’r llofruddiaeth – dyn 19 oed, merch 16 oed a merch arall 17 oed. Maen nhw wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchiliadau’n parhau.

Fe gafodd yr heddlu a pharafeddygon eu galw am 4.45yb ddydd Iau, Gorffennaf 3. Bu farw Zydrunas Laurinavicius o ganlyniad i’w anafiadau yn ei frest toc cyn 5.30yb y diwrnod hwnnw.