Mae’r teiffwn cryfa’ i daro de China ers pedwar degawd, wedi lladd 18 o bobol.

Fe darodd teiffwn Rammasun ynys Hainan ddydd Gwener, gan ladd naw o bobol.

Bu farw naw o bobol eraill yn ddiweddarach yn ardal Guagngxi, wrth i’r storm daro’r tir mawr ar ei ffordd i Fietnam.

Dyma’r teiffwn cryfa’ i daro de’r wlad mewn 41 mlynedd. Fe gyrhaeddodd y gwyntoedd gyflymder o 130 milltir yr awr, gyda cheblau trydan yn cael eu torri ac adeiladau’n cael eu difrodi.

Fe gafodd gwasanaethau a thrafnidiaeth gyhoeddus eu heffeithiau, wrth i’r awdurdodau rwystro bysiau, trenau ac awyrennau rhag teithio yn de China.