Nicky Morgan (Llun: PA)
Mae Gweinidog Addysg newydd llywodraeth San Steffan, Nicky Morgan, wedi addo “bod yn neis wrth athrawon”, ond mae hefyd wedi addo na fydd hi’n dad-wneud rhai o gynlluniau dadleuol ei rhagflaenydd, Michael Gove.

Fe aeth Mr Gove ben-ben yn aml gydag undebau athrawon, wrth iddo geisio cael y maen i’r wal gyda’i gynllun dadleuol i ddiwygio’r drefn addysg yn Lloegr.

Ond mae Nicky Morgan wedi addo “gweithio gydag athrawon a rhieni, prifathrawon a llywodraethwyr” er mwyn cael y canlyniadau gorau i ddisgyblion.

Ond mae wedi mynnu na fydd yn gwneud tro pedol o ran rhai o gynlluniau Mr Gove – yn arbennig, felly, ei fwriad i sefydlu ysgolion ‘rhydd’ ac academis, a chynnig mwy o ddewis a chystadleuaeth.

“Fydda’ i ddim yn dad-wneud dim o’r diwygiadau,” meddai Nicky Morgan wrth bapur newydd The Sunday Times heddiw.

“Dw i’n meddwl fod Michael wedi bod yn Ysgrifennydd Addysg ffanstastig, ac mae’r cynlluniau y mae wedi’u gosod yn eu lle, yn enwedig o ran rhyddhau ysgolion rhag ymyrraeth gan San Steffan, wedi bod yn arbennig o lwyddiannus.”