Fe gafodd 11 o wrthryfelwyr eu lladd pan daniodd un o drons yr Unol Daleithiau nifer o daflegrau at glwstwr o adeiladau yng ngogledd-orllewin Pacistan, ar y ffin ag Afghanistan.


Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Datta Khel, tref yng Ngogledd Waziristan, lle mae byddin Pacistan wedi bod yn ceisio cael y gorau ar wrthryfelwyr ers mis da.

Mae’r awdurdodau’n dweud fod y mwyafrif o’r rheiny gafodd eu lladd gan yr ymosodiad yn ddynion ac yn perthyn i Tehrik-e-Taliban Pakistan, grwp ymbarel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau gwrthryfelgar o’r ardaloedd llwythol.

Mae Tehrik-e-Taliban Pakistan wedi galw am ddymchwel llywodraeth Pacistan, er mwyn gallu sefydlu cyfundrefn a chyfraith Islamaidd yn ei lle.