Mae heddlu yng ngogledd-ddwyrain Lloegr wedi rhybuddio’r cyhoedd i beidio a mynd yn agos at ddyn y maen nhw’n chwilio amdano mewn cysylltiad a llofruddiaeth mewn gwesty yn Bridlington.

Mae Heddlu Humberside yn credu fod John Heald, 53, wedi bod yn aros yn y gwesty yn Marshall Avenue, Bridlington, Dwyrain Swydd Efrog, lle cafodd corff menyw ei ddarganfod toc cyn hanner nos neithiwr.

Dyw’r wraig ddim wedi’i henwi eto, ond y gred ydi mai gwraig leol, 49 oed, oedd hi.

“Mae’n bosib iawn fod cysylltiad rhwng John Heald a’r farwolaeth,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae wedi gadael y gwesty, ac mae’n bosib ei fod wedi mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus.”