Mae miloedd o bobol wedi cynnal rali yn India heddiw, er mwyn tynnu sylw at “ddiofalwch” yr heddlu wedi i ferch chwe blwydd oed gael ei threisio yn ne’r wlad.
Mae anerchwyr y rali yn mynnu fod yr awdurdodau’n arestio’r rhai fu’n gyfrifol am y trais.
Fe fu dros 4,000 o rieni a pherthnasau plant sy’n mynd i’r ysgol yn Bangalore, yn gweiddi sloganau yn erbyn gweinyddwyr yr ysgol. Maen nhw’n gandryll na chafodd y trais, a ddigwyddodd ar Orffennaf 2, ei riportio tan yr wythnos hon.
Roedd eu placardiau’n dweud “Digon yw digon” a “Rydyn ni’n mynnu cyfiawnder”, wrth iddyn nhw gerdded dros ddwy filltir i un o brif swyddfeydd yr heddlu yn Bangalore.
Mae’r heddlu’n dweud fod y ferch wedi cael ei threisio pan adawodd ei hystafell ddosbarth er mwyn mynd i’r toiled.