Mae’r pedwar o bobol a fu’n derbyn triniaeth ysbyty wedi damwain ar fferi gario ceir, wedi cael eu hanfon adref.
Fe gafodd tri theithiwr ac un aelod o’r criw eu hanafu yn y digwyddiad ar y bad Wightlink Ferries St Helen yn noc Fishbourne ar Ynys Wyth.
Wrth i’r teithwyr adael y fferi toc cyn 10.30yh neithiwr, fe gwympodd y dec uwch, gyda naw car arno, am ben y dec oddi tano.
Trwy lwc, roedd y cerbydau ar y dec is eisoes wedi gadael y fferi.
Roedd y fferi wedi cychwyn o borthladd Portsmouth am 9.30yh, gyda 181 o deithwyr ac 11 o griw ar ei bwrdd.