George Thomas
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i’r ymchwiliad sydd ar y gweill i honiadau o gam-drin yn erbyn y diweddar Aelod Seneddol George Thomas (Arglwydd Tonypandy).

Mae’r llu hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi gofyn i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu edrych ar y modd y delion nhw gyda honiad o gam-drinyn erbyn George Thomas.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Nikki Holland, heddiw: “Fe ddaethon ni’n ymwybodol o’r honiadau hyn ym mis Ebrill 2013, ac rydyn ni wedi ceisio cysylltu gyda’r dioddefwr.

“Yn anffodus, fe ddefnyddiwyd y wybodaeth anghywir wrth geisio gwneud cyswllt, ac fe fethon ni a siarad gyda’r dioddefwr. Yn y cyfamser, r’yn ni wedi siarad gydag e, ac r’yn ni’n ymchwilio i’w honiadau.

“Yn amlwg, roedd yr oedi hwn yn annerbyniol,” meddai Nikki Holland wedyn, “ac r’yn ni wedi cyflwyno’r mater i sylw’r IPCC (Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu).

“Mae’n bwysig fod gan ddioddefwyr yr hyder i ddod ymlaen a siarad gyda ni. R’yn ni’n cymryd unrhyw honiadau yn ymwneud ag ymosodiad rhywiol o ddifri’, ac r’yn ni’n annog unrhyw un sydd wedi diodde’ y math yma o drosedd i gysylltu gyda ni.”