Mae cwmni siopau Tesco yn cynllunio i godi 4,000 o dai newydd ar dir a oedd, ar un adeg, wedi’i glustnodi ar gyfer codi archfarchnadoedd.
“Rydyn ni wrthi’n gweithio ar gynlluniau i godi 4,000 o dai ar hyd a lled gwledydd Prydain,” meddai llefarydd ar ran Tesco.
“Fe fydd hynny’n digwydd un ai wrth i ni eu codi nhw ein hunain, neu trwy werthu’r tir i ddatblygwyr.
“Mewn llefydd lle’r ydyn ni eisoes wedi codi tai o safon uchel – yn Faversham neu Highams Park, er enghraifft – mae’r ymateb gan y cymunedau llel wedi bod yn gadarnhaol iawn.
“Dyna pam yr ydan ni’n bwriadu buddsoddi mwy mewn cymunedau eraill dros y blynyddoedd nesa’.”
Yr ardaloedd dan sylw gan Tesco ydi Welwyn Garden City aSt Albans yn ne-ddwyrain Lloegr, ynghyd a gogledd a gorllewin Lloegr.