Mae naw o bobol wedi’u lladd, a 43 arall wedi’u hanafu, wedi i dri bws fynd ben-ben ar briffordd yn nwyrain Yr Almaen.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ger dinas Dresden, tua 2 o’r gloch fore heddiw. Roedd bwsiau o wlad Pwyl, Yr Wcrain a bws mini o wlad Pwyl, yn rhan o’r digwyddiad.

Yn dilyn ymholiadau cychwynnol, fe darodd y bws o wlad Pwyl gefn y bws o’r Wcrain, gan yrru hwnnw i mewn i farier diogelwch, cyn mynd ben-ben a’r bws mini o wlad Pwyl.

Roedd chwech o’r teithwyr a laddwyd yn dod o wlad Pwyl. Mae teledu MDR yn yr Almaen wedi adrodd fod y rheiny yn teithio yn y bws mini.

Fe gafodd y rhai ag anafiadau eu cludo i ysbytai yn Dresden a Radebeul.