Fe fu’n rhaid symud cleifion oddi ar ward pan gwympodd nenfwd mewn ysbyty yn Lloegr neithiwr.

Fe gafodd 27 o gleifion ar ward gardioleg yn y Royal United Hospital yng Nghaerfaddon, eu symud tua 2 o’r gloch y bore.

Fe gwympodd tair rhan o’r nenfwd wedi glaw trwm.

“Yn ystod un o’r stormydd gwael gafwyd neithiwr, fe aeth y to i ollwng dwr,” meddai llefarydd ar ran yr ysbyty.

“Fe gronnodd y dwr yn y to, gan achosi i dair rhan o’r nenfwd gwympo dan bwysau’r dwr.

“Fe fu’n rhaid symud 27 o gleifion i rannau eraill o’r ysbyty, ond chafodd neb eu hanafu. Rydyn ni’n ymddiheuro am bo anghyfleustod.”