Ymosodiadau ar Gaza
Mae Israel a Hamas wedi cytuno ar gadoediad o bum awr wrth i’r Cenhedloedd Unedig geisio sicrhau cytundeb mwy parhaol.

Dyma’r arwydd mwyaf gobeithiol hyd yma y gallai’r ymladd ffyrnig rhwng Israel a’r grŵp milwriaethus Palestinaidd ddod i ben.

Mae mwy na 200 o Balestiniaid wedi cael eu lladd wrth i Israel gynnal cyrchoedd o’r awyr ar Gaza. Ddoe, cafodd pedwar llanc yn eu harddegau eu lladd ar draeth yn Gaza ar ôl cael eu taro gan fomiau gafodd eu tanio o long y llynges.

Dywedodd Israel y byddai’n atal ei hymosodiadau o 10yb (amser lleol, sef 8yb yma) heddiw er mwyn caniatáu i Balestiniaid gasglu bwyd, dwr a nwyddau angenrheidiol eraill.

Ond mae wedi dweud y bydd yn dial yn “gadarn” os yw Hamas neu grwpiau milwriaethus eraill yn tanio rocedi yn ystod y cyfnod yna.