Danny Alexander
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am ddiwygio’r “dreth ystafell wely” wrth iddyn nhw wneud tro pedol ynglŷn â’r newidiadau i’r budd-dal tai.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd pobl sy’n derbyn budd-dal tai yn cael llai o arian os oes ganddyn nhw ystafell sbâr.

Ond mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander wedi dweud nad yw’r polisi dadleuol yn gweithio a bod angen “newid agwedd”.

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi wfftio tro pedol y Democratiaid Rhyddfrydol gan fynnu bod y blaid wedi ei “hymrwymo” i’r newid a’i bod yn hanfodol bwrw mlaen gyda’r ymdrech i leihau’r bil budd-daliadau.