Llun gwneud o bencadlys newydd y BBC yng nghanol Caerdydd
Bydd Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd heddiw yn trafod cynlluniau i adleoli’r orsaf fysus yng Nghaerdydd.
Fis diwethaf cyhoeddodd BBC Cymru ei bod yn bwriadu adleoli ei phencadlys i adeilad newydd yng nghanol y ddinas ble mae’r orsaf fysus ar hyn o bryd.
Mae BBC Cymru yn bwriadu adleoli yn 2018, sy’n golygu y bydd angen i’r orsaf fysus presennol gau yn haf 2015 er mwyn gallu dechrau’r gwaith adeiladu ar y datblygiad.
Bydd y cyngor yn trafod dau safle posibl ar gyfer y safle fysus newydd.
Mae’r safle cyntaf, Tŷ Marland/Maes Parcio NCP Wood Street i’r gogledd o’r rheilffordd. Yr ail yw safle parcio’r orsaf drenau sydd i’r de o’r rheilffordd.
‘Cynllun adfywio uchelgeisiol’
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd y Cynghorydd Phil Bale: “Mae penderfyniad BBC Cymru i adleoli i ganol y ddinas yn bluen yn ein cap a dyma gam nesaf ein cynllun adfywio uchelgeisiol.
“Bydd yn arwain at godi adeilad pencadlys pwysig yng nghanol y ddinas, yn ogystal â chreu swyddfeydd eraill o ansawdd uchel.
“Mae hefyd yn golygu y gallwn ail-ddylunio’r lle rydym yn croesawu’r byd i’r ddinas, gan sefydlu ardal y gall y ddinas ymfalchïo ynddi.
“Mae hwn yn ddatblygiad ar raddfa enfawr, ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn ymgynghori drwy gydol y broses ar y newidiadau buddiol a ddaw yn sgil hyn er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r datblygiadau gorau posibl i Gaerdydd nawr ac yn y dyfodol.”