Yng Ngwynedd a Phowys mae tai’n gwerthu’n arafach nag unman arall yn y DU, yn ôl arolwg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 112 o ddiwrnodau i werthu tŷ yng Ngwynedd, a 113 o ddiwrnodau ym Mhowys.
Mae tai’n gwerthu gyflymaf mewn trefi lle mae yna brifysgol ar gyfartaledd,, yn ôl cwmni Rightmove.
Mae’r gyfartaledd isaf i werthu tŷ yng ngwledydd Prydain yng Nghaergrawnt, lle mae’n cymryd 27 o ddiwrnodau.
Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 10 diwrnod yn llai i brynu tŷ erbyn hyn nag yr oedd flwyddyn yn ôl.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Swyddfa Ystadegau bod prisiau tai yn y DU wedi codi 10.5% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Rightmove fod “cyflymdra gwahanol yn y farchnad dai ar lefel leol” a bod “cyflymdra’n allweddol i’r prynwyr a’r gwerthwyr”.
Dywedodd Melfyn Williams, sy’n asiant gwerthu tai yng Ngwynedd: “Dydy’r effaith o Lundain a thipyn o sôn am farchnad sydd wedi ‘gor-wresogi’ ddim wedi cyrraedd Gwynedd.
“Tra bod nifer y gwerthiannau wedi gwella ac wrth i rai tai gael eu gwerthu o fewn diwrnodau neu wythnosau, yr amser i sicrhau gwerthiant ar gyfartaledd yw tri neu bedwar mis ac mae nifer o eiddo sydd bellach wedi bod ar werth ers dros 12 mis.”