Mae tri choleg meddygol brenhinol wedi cyhoeddi canllawiau i geisio lleddfu’r pwysau ar gofrestryddion meddygol ac i sicrhau diogelwch cleifion.

Mae’r cynnydd yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a phrinder meddygon dan hyfforddiant sy’n arbenigo mewn meddyginiaeth ddwys yn golygu bod mwy o bwysau ar unedau meddygol ledled y DU.

Mae’r canllawiau newydd yn cynnwys arallgyfeirio arian er mwyn cyflogi doctoriaid cysgodol, llenwi bylchau recriwtio gan ddenu mwy o ddoctoriaid o dramor, sicrhau bod llai o gamau yn nhriniaeth cleifion rhwng adrannau a defnyddio dulliau amgen o drin cleifion, gan gynnwys rhoi mynediad i fwy o glinigau arbenigol a gwasanaethau cymunedol.

‘Lleddfu’r pwysau dros dro’

Fe fydd y canllawiau newydd hefyd yn galw ar ddoctoriaid nad ydyn nhw’n arbenigo mewn cyflyrau dwys i weithio yn yr uned honno, gan roi cyngor iddyn nhw ar sut i weithio’n ddiogel.

Mae awduron y canllawiau wedi nodi nad ydyn nhw’n rhai tymor hir ac mai eu pwrpas yw lleddfu’r pwysau dros dro.

Dywed yr adroddiad fod angen i fwy o ddoctoriaid gael eu hyfforddi er mwyn gallu darparu gwasanaeth arbenigol yn y tymor hir.

Yn dilyn cyhoeddi’r canllawiau, dywedodd llywydd Coleg Brenhinol Ffisegwyr Llundain, Syr Richard Thompson mai’r unedau meddygol dan sylw yw’r “drws ffrynt ar gyfer ein hysbytai” a’u bod yn “methu ymdopi â’r cynnydd yn nifer y derbyniadau dwys”.

Dywedodd llywydd Coleg Brenhinol Ffisegwyr Caeredin, yr Athro Derek Bell fod “rhaid i lefelau bodlonrwydd hyfforddeion yn ymwneud â bod ar alw ar gyfer meddyginiaeth ddwys wella”.

Ychwanegodd llywydd Coleg Brenhinol Ffisegwyr Glasgow, Dr Frank Dunn fod “profiad hyfforddeion mewn gofal heb ei gynllunio yn debygol o gael ei ddatblygu trwy gyflawni’r lefel briodol o gefnogaeth a goruchwyliaeth.”