Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams wedi galw am ymchwiliad yn dilyn cais trwy’r Ddeddf Ryddid Gwybodaeth oedd wedi dangos bod hyd at 20,000 o gleifion yn cael eu hanfon adre o’r ysbyty yng nghanol y nos.

Ers 2012, mae 19,702 o gleifion mewnol wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty rhwng 11yh a 6yb.

Ond does dim esboniad gan yr un o’r byrddau iechyd yng Nghymru pam eu bod nhw wedi cael eu hanfon adre yn ystod yr oriau hynny.

Does dim gorfodaeth ar hyn o bryd i fyrddau iechyd gofnodi’r amser y mae cleifion yn cael eu hanfon adref o’r ysbyty ac felly mae’n bosib nad yw data pob ysbyty’n “gyflawn nac yn gywir”.

O blith holl fyrddau iechyd Cymru, dim ond Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro oedd wedi gwrthod datgelu manylion.

‘Brawychus’

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae’n destun sioc fod bron i 20,000 o gleifion yn gadael yr ysbyty yng nghanol y nos.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru ymchwilio’n fanwl i ddarganfod pam fod y ffigurau hyn mor frawychus o uchel.

“Tra mai data amrwd yw’r ffigurau hyn, mae yna stori bersonol y tu ôl i bob un o’r ystadegau hyn.”

‘Galw am wlâu’

Ychwanegodd: “Rwy am wybod pam ei fod yn cael ei ystyried yn rhesymol i filoedd o bobol adael yr ysbyty yn ystod oriau mor anghymdeithasol.

“Rwy’n arbennig o bryderus y gallai nifer o’r cleifion hyn fod yn oedrannus neu’n wynebu niwed.”

Awgrymodd y gallai’r galw uchel am wlâu fod yn gyfrifol am yr ystadegau.

“Dydy’r drefn bresennol ar gyfer casglu’r data pwysig hwn ddim yn addas ar gyfer ei phwrpas.

“Dydy ysbytai ddim yn cadw cofnod cywir o’r rhesymau pam fod cleifion yn cael eu rhyddhau na phryd maen nhw’n cael eu rhyddhau.

“Mi allai hon fod yn broblem fawr sy’n cael ei cholli o dan y radar.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod y data hwn yn cael ei gofnodi’n gywir ac yn drylwyr fel y gallwn ni weld graddau’r broblem.”