Yr M4
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau gwerth £1 biliwn ar gyfer ffordd newydd o gwmpas Casnewydd.
Bwriad y ffordd newydd, a fydd yn cael ei hadeiladu rhwng cyffordd 23 a 29, yw ceisio lleihau’r pwysau ar yr M4 i’r de o Gasnewydd a rhoi hwb i’r economi.
Mae disgwyl i’r ffordd gael ei chwblau erbyn 2022.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart ddydd Mercher ond mae’r gwrthbleidiau a rhai ACau Llafur wedi ei beirniadu am wneud y cyhoeddiad heb gwblhau ymgynghoriad. Maen nhw hefyd yn dadlau y gallai fod wedi dewis cynllun rhatach sef gwella’r ffyrdd presennol o gwmpas Casnewydd.
Mae llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyhuddo Edwina Hart o fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau cyn i’r Pwyllgor Amgylchedd gyhoeddi ei adroddiad i’r mater.
Dywedodd ei bod yn warthus fod y Gweinidog wedi gwneud cyhoeddiad heb ateb cwestiynau a phryderon a gafodd eu codi gan Aelodau’r Cynulliad a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Roedd y Gweinidog, meddai, wedi gwrthod ymddangos gerbron y pwyllgor i gael ei holi am y cynlluniau.
‘Heb ymateb i bryderon’
Mewn datganiad, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae y tu hwnt i grediniaeth fod y Gweinidog wedi gwneud y cyhoeddiad hwn heb hyd yn oed ymateb i bryderon ACau a phwyllgorau trawsbleidiol.
“Gwnaeth Llywodraeth Cymru feirniadu Plaid Cymru am geisio annog trafodaeth ar y pwnc hwn tra bod y pwyllgor yn cynnal ei ymchwiliad, ond wrth ddangos difaterwch llwyr i’r pwyllgor, mae’r llywodraeth bellach wedi gwneud ei phenderfyniad terfynol cyn diwedd ymgynghoriad y pwyllgor!”
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud “camgymeriad costus” i’r economi a’i fod yn disgwyl i’r cynllun gymryd hyd at 15 mlynedd i gael ei gwblhau, er y gellid fod wedi cyflwyno llwybr newydd “ddegawd ynghynt”.
Ychwanegodd y byddai’r “Llwybr Glas” roedd Plaid Cymru’n ei ffafrio wedi costio £400 miliwn, tra bod Llywodraeth Cymru wedi dewis opsiwn sy’n costio’n nes at £1 biliwn.
‘Camgymeriad mawr’
Dywed llefarydd economi’r Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott fod y penderfyniad yn “gamgymeriad mawr” a’i fod yn “groes i’r materion amgylcheddol ac economaidd a gafodd eu codi gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a nifer o sefydliadau eraill trwy gydol y broses hon”.
Dywedodd fod y broses ymgynghori’n “ddim llai na thwyll”.
“Mae honiad y Gweinidog fod dim rheswm pam na ellid fod wedi mabwysiadu’r llwybr du yn anwybyddu tystiolaeth a gafodd ei rhoi iddi gan yr RSPB, Sustrans a Ffederasiwn y Busnesau Bach yn llwyr.”
Ychwanegodd fod “cwestiynau enfawr” o hyd am fanteision economaidd y cynllun.